Ydych chi’n chwilio am wasanaeth proffesiynol sy’n darparu gwerth am arian ac a gaiff ei ddarparu mewn modd hyblyg a chyfeillgar? Rydych wedi dod i’r lle cywir!
Mae Nerys Hurford, sydd wrthi’n gweithio yn y maes cyfieithu ers bron i ugain mlynedd, yn cynnig gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i gleientiaid sy’n amrywio o gwmnïau rhyngwladol mawr ac adrannau’r llywodraeth i grwpiau lleol yn y sector gwirfoddol. Mae ganddi brofiad eang a chynhwysfawr, a bydd yn sicr o ateb eich holl ofynion.
Cynigir y gwasanaethau canlynol:
- Cyfieithu ysgrifenedig – o gyhoeddiadau mawr i ddogfennau brys a wneir dros nos
- Cyfieithu ar y pryd – o gyfweliadau a chyfarfodydd bwrdd bach i gynadleddau i fwy na 500 o gynadleddwyr (darperir clustffonau)
- Gwasanaethau ymgynghori i drafod gofynion technegol a gweinyddol wrth drefnu digwyddiadau a buddsoddi mewn systemau cyfieithu ar y pryd
Cefndir:
- Graddio ym 1997 o Brifysgol Cymru Abertawe gyda gradd cydanrhydedd 2(i) Cymraeg a Ffrangeg
- Cynigir cyfraddau cystadleuol, gostyngiadau ar gyfer archebion bloc ac i rai sefydliadau elusennol, a gwasanaeth personol wedi’i deilwra i chi
- Aelodaeth gyflawn ac aelodaeth cyfieithu ar y pryd o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (cymhwyster cydnabyddedig uchaf y diwydiant cyfieithu yng Nghymru)
- Achrediad llawn i gyfieithu ar y pryd yn y llysoedd - GLlTEM
- Cyn-aseswr cyfieithu ar y pryd ar gyfer y Gymdeithas
- Tîm o isgontractwyr proffesiynol a dibynadwy wrth gefn (pob un yn aelodau CAP o’r Gymdeithas)
- Lleolir yng Nghaerdydd
- Yswiriant llawn
Ymhlith fy mhrif gleientiaid mae:
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
- Comisiynydd y Gymraeg
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
- Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
Manylion Cyswllt
Tel: 02920 890044
Mob: 07801 657370
Email: nerys@neryshurford.co.uk